BSL-51 Llinos Alun

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Bil Aelod Arfaethedig – Mark Isherwood AS | Proposed Member Bill - Mark Isherwood MS

Datblygu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) | Development of the British Sign Language (BSL) (Wales) Bill

Ymateb gan: Llinos Alun | Evidence from: Llinos Alun

Yr angen am ddeddfwriaeth

Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau ynghylch hybu a hwyluso defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Fodd bynnag, dim ond yn Lloegr y mae’r Ddeddf hon yn gymwys. Nid yw’n gymwys i Lywodraeth Cymru na chyrff cyhoeddus yng Nghymru, fel cynghorau neu’r GIG.  Nod Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gosod dyletswyddau penodol cyfatebol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Cwestiwn 1: A ydych chi’n credu bod angen y ddeddfwriaeth hon? Rhowch resymau dros eich ateb.

Ydw mae angen cryfhau hawliau'r byddar / nam clyw.

Cwestiwn 2: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r nodau y mae’r Bil yn ceisio eu cyflawni? Rhowch resymau dros eich ateb.

Cytuno - diffyg dfarariaeth ym maes addysg sydd wedi dod i fy sylw fwyaf.

Iaith Arwyddion Prydain

Cwestiwn 3: A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil gynnwys cynigion i hybu a hwyluso defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol?

Ydw

Cwestiwn 4: A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil gefnogi’r tafodieithoedd rhanbarthol amrywiol sy’n bodoli yng Nghymru yng nghyd-destun BSL?

Ddim yn gwybod

Cwestiwn 5: A ydych chi’n credu y dylid rhoi ‘BSL signers’ (arwyddwyr BSL) yn lle’r term ‘BSL users’ (defnyddwyr BSL), gan gydnabod bod BSL yn iaith sy’n cynnwys arwyddwyr byddar ac arwyddwyr sy’n clywed? Rhowch resymau dros eich ateb.

Ydw

Cwestiwn 6: A ydych chi o’r farn y gellir defnyddio'r term ‘deaf BSL signers’ ('arwyddwyr BSL byddar') wrth gyfeirio at ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL sy'n fyddar yn feddygol neu'n awdiolegol?  Rhowch resymau dros eich ateb.

Ydw.

Angen bod yn glir, ffeithiol

Cymunedau byddar

Cwestiwn 7: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau a ganlyn am gymunedau byddar:

a) ar hyn o bryd, mae ganddynt lais yn y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio a’u darparu. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych.

Cytuno.

Angen profiad byw o fod yn fyddar i lywio penderfyniadau

b) dylai fod ganddynt lais ffurfiol yn y ffordd y mae’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio a’u darparu, yn enwedig y rhai sydd wedi’u targedu at bobl fyddar. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych.

Cytuno’n gryf

Cwestiwn 8: A oes unrhyw ddulliau cyfathrebu penodol eraill, a ddefnyddir gan bobl fyddar, yr hoffech i’r Bil gyfeirio atynt/eu cynnwys?

 

 

Rhwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar

Cwestiwn 9: Beth, yn eich barn chi, yw’r prif rwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd i bobl fyddar a/neu eu teuluoedd yn y meysydd a ganlyn.  Ticiwch bob un sy’n gymwys a rhowch resymau dros eich ateb.

Addysg; Iechyd; Gofal Cymdeithasol; Trafnidiaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus Eraill a ddefnyddir gan bobl fyddar a’u teuluoedd; Gweithle.

Nid oes digon o bobl broffesiynol sy'n gallu arwyddo

Sefydlu Comisiynydd BSL Cymru

Mae’r Bil yn cynnig sefydlu Comisiynydd Iaith Arwyddion Prydain a fyddai’n hybu ac yn hwyluso defnydd o BSL. Byddai gan y Comisiynydd hwn yr un pwerau â Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, fel ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Cwestiwn 10: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i sefydlu Comisiynydd BSL Cymru, ac a oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ddewisiadau gwahanol? Rhowch resymau dros eich ateb.

Ydw.

Cwestiwn 11: Cylch gorchwyl arfaethedig y Comisiynydd fyddai:

§    llunio safonau BSL;

§    sefydlu panel cynghori BSL;

§    llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;

§    darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hybu a hwyluso BSL yn eu priod barthau;

§    sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion.

A ydych chi’n cytuno â chylch gwaith arfaethedig y Comisiynydd, ac a oes unrhyw ddarpariaethau eraill yr hoffech eu cynnwys yn ei gylch gwaith? Rhowch resymau dros eich ateb.

 

 

Cwestiwn 12: A ydych chi'n cytuno y dylai'r Comisiynydd BSL ac aelodau'r Panel Cynghori BSL fod yn ddefnyddwyr/arwyddwyr rhugl?

Ydw

Cwestiwn 13: A ydych chi’n credu y dylai’r Comisiynydd BSL a’r Panel Cynghori arfaethedig flaenoriaethu’r canlynol? Ticiwch bob un sy’n gymwys a rhowch resymau dros eich ateb.

Cymorth iaith blynyddoedd cynnar i blant byddar a’u teuluoedd; Gwella darpariaeth BSL ym maes addysg; Mynediad at ddehonglwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus; Galluogi defnyddwyr byddar/arwyddwyr i arwain y gwaith o ddatblygu polisïau a gweithredu gwasanaethau i ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL.

Cwestiwn 14: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar BSL? Rhowch resymau dros eich ateb.

Ydw

Cwestiwn 15: A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu codi am y Bil a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig?